Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
Mae’n ddyddiau cynnar eto, ond mae’r arwyddion cyn belled yn galonogol iawn ym Mhont Fadlen, Hwlffordd. Dechreuodd yr oedfaon misol ym mis Hydref ac mae wedi bod yn llawenydd i weld yr ymateb ymhlith y bobl sydd wedi mynychu’r oedfaon. Er mwyn ceisio rhoi diweddariad ar y gwaith dwi wedi gofyn chwe chwestiwn i mi fy hun (Geraint!) a cheisio eu hateb.
Beth sy’n digwydd mewn oedfa fel arfer?
Er bod yr oedfa’n dechrau am 3.00 y.p. bydd y criw sy’n arwain yr oedfa’n ceisio bod yno tua 2.00 i 2.15 er mwyn gweddïo, paratoi a threfnu’r ystafell. Rhaid gwneud yn siŵr bod lefel y sain yn dderbyniol rhwng yr offerynnau (piano a ffidil) a’r ddau sy’n arwain y canu. Rhaid sicrhau bod y cyfrifiadur yn siarad â’r proejctor a bod y sgrin yn iawn. Rhaid gosod y cadeiriau mewn dau neu dri hanner cylch a bod y byrddau a’r cadeiriau’n barod yng nghefn yr ystafell ar gyfer gwaith y plant a’r bobl ifanc. Mae cael tîm croesawu’n bwysig, felly mae o leiaf dau berson ar ddyletswydd, un wrth y drws allanol a’r llall wrth y drws mewnol. Bydd rhywun wedi paratoi paned a bisgedi ar gyfer y cymdeithasu wedi’r oedfa.
Bydd yr oedfa’n dechrau am 3.00 gyda thua 10 munud o addoliad di-dor, cymysgedd o emynau traddodiadol a chyfoes. Yna beth neges i’r plant fydd yn dod i eistedd o flaen y llwyfan gyda chân yn dilyn – 10 munud arall. Bydd rhywun yn darllen o’r Beibl gyda neges yn dilyn. Bydd emyn yn cloi’r cyfarfod a’r cyfan yn parhau am rywbeth rhwng 45 a 55 munud. Rhaid cael paned a sgwrs am o leia’ 30 munud cyn clirio’r ystafell. Does dim gweddi hir, dim ond dwy neu efallai tair gweddi fer! Does dim casgliad, ond mae blwch yn y cefn i dderbyn arian os ydy pobl yn dymuno gwneud! Rydym wedi buddsoddi hefyd mewn peiriant i dderbyn cyfraniadau electronig, talu â cherdyn yn uniongyrchol mewn i gyfrif banc Rhwyd y Brenin.
Beth yw iaith y cyfarfodydd?
Cynhelir y cyfarfodydd yn uniaith Gymraeg, ond byddwn yn darparu ar gyfer rhai efallai nad ydynt yn deall llawer o Gymraeg. Bydd yr emynau’n ymddangos ar y sgrin yn ddwyieithog a’r mwyafrif llethol yn canu yn y Gymraeg. Bydd y darlleniad Beiblaidd yn ymddangos ar y sgrin a’r neges ar “Power-Point”. Rydym wedi buddsoddi mewn offer cyfieithu gyda 10 set ar hyn o bryd. Wrth gwrs, rhaid cael cyfieithydd hefyd, fydd yn gweld amlinelliad o’r neges o flaen llaw, fel arfer. Ond mae trafferthion technegol yn codi! Ein bwriad yw bod yn ddysgwyr cyfeillgar, felly mae pwyslais ar iaith syml a siarad ychydig yn fwy araf na’r arfer.
Sut ydych yn hysbysebu?
Ar hyn o bryd mae’r mwyafrif o bobl wedi ymddangos oherwydd gwahoddiadau personol a hysbysebion ar “Facebook”. Ein bwriad yw paratoi hysbyseb / poster ar gyfer pob oedfa i fod yn barod tua 8 i 10 diwrnod cyn y cyfarfod. Yn y dyfodol byddwn yn paratoi negeseuon byr / fideos byr, i fynd ar Facebook yn ogystal. Dwi’n cofio clywed diffiniad da o beth yw efengylu – “Un cardotyn yn dweud wrth gardotyn arall ble i gael bara!” A dyna dwi’n gobeithio bydd yn digwydd. Rydym wedi ceisio cysylltu â’r ysgolion Cymraeg lleol, ond anodd ac araf yw’r siwrne i feithrin perthynas dda rhwng cymuned ffydd a’r ysgolion, yn enwedig wrth ddechrau prosiect cenhadol newydd.
O ble mae’r bobl yn dod?
Hyd yn hyn, mae’r mwyafrif o’r bobl sydd wedi ymddangos yn yr oedfaon eisoes yn mynychu oedfaon mewn capeli neu eglwysi eraill. O’r nifer yma, mae’r mwyafrif eisoes yn Gristnogion ond yn awyddus iawn i addoli yn yr iaith Gymraeg. Mae rhaid wedi ymddangos heb gysylltiad presennol ag eglwys, ond wedi cael cysylltiad yn y gorffennol, efallai yn eu harddegau. Bydd rhai’n ymddangos o gapeli traddodiadol Cymraeg er mwyn profi “oedfa wahanol”.
Beth yw eich gweledigaeth am y dyfodol?
Ein gweledigaeth yw rhannu newyddion da am Iesu Grist trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn ne Sir Benfro a gweddïo y bydd pobl yn dod i fydd bersonol ynddo. Rhaid pwysleisio eto mai prosiect cenhadol yw gwaith Rhwyd y Brenin ac nid eglwys newydd. Pwy a ŵyr beth ddaw o hyn o dan fendith Duw. Rwy’n gweddïo y bydd rhywrai’n ymddangos yn ein plith gyda baich i weld y gwaith yn llwyddo o dan fendith Duw ac yn barod i dderbyn y baton ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Sut allwn weddïo dros y gwaith?
Mae cydweithio’n bwysig felly gweddïwch y bydd y criw o saith sydd wedi sefydlu’r gwaith yn cydweithio ac yn arddel a datblygu doniau o fewn y gwaith. Bydd angen doethineb ynglŷn â’r camau nesaf, e.e. sefydlu oedfa arall ar brynhawn Sul ac i gyfarfod dwywaith y mis. Rydym eisoes wedi dechrau meddwl sut i gynnal rhywbeth wythnosol e.e. cyfarfod dros baned am sgwrs neu astudiaeth fer. Ac wrth gwrs, os ydy’r gwaith mynd i dyfu bydd angen cyllid, grantiau, rhoddion ayb. Yn bennaf oll, gweddïwch y bydd yr Ysbryd Glân yn symud yn rymus yn ein plith. Ac os ydych yn y cyffiniau ar brynhawn dydd Sul cyntaf y mis, dewch, ymunwch â ni ac ewch i ddweud wrth eraill ac i weddïo drosom. Y cyfeiriad yw “Emmanuel”, 87 Pembroke Road, Pont Faglen, Hwlffordd SA61 1LN.
- 7 Mai 2025Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
12