This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Ein gwerthoedd

YR EFENGYL

Rydym yn caru Iesu Grist a’r cyfan y mae wedi ei gyflawni drosom.

PLANNU EGLWYSI

Mae Cymru’n genedl o gymunedau bychain. Rydym yn credu mai’r ffordd orau i gyrraedd y cymunedau hyn gyda’r efengyl yw i blannu eglwysi newydd ac efengyl-ganolog ynddynt.

CYMRU GYFAN

Rydym yn caru pob cornel a phob cymuned yn y tir yma, yn ei holl brydferthwch, gyda’i holl glwyfau. Rydym wedi ymrwymo i weithio drwy’r Gymraeg a’r Saesneg fel mynegiant o ddyhead ein calon dros y genedl gyfan.

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Mae diwrnod newydd o uchelgais dros yr efengyl yn gofyn am ddiwrnod newydd o gyd-weithio dros yr efengyl – gweithio gydag haelioni mawr, gwir gyfeillgarwch, a dyhead i anrhydeddu ein gilydd.

FFYDD EOFN

Mae gennym Dduw mawr, felly rydym yn breuddwydio breuddwydion mawr am yr hyn y medr ei wneud yn ein cenhedlaeth, ac rydym yn barod i fentro wrth inni fod yn rhan o’i genhadaeth Ef.

IECHYD YSBRYDOL

Rydym yn dyheu am weld gwaith yn ein dydd sy’n eang (yn cyrraedd mwy o bobl, mwy o lefydd), ac yn ddwfn (yn ffurfio arweinwyr ac eglwysi sydd fel Iesu)

Ein hanes

100 o eglwysi, 10 mlynedd.
Beth sydd ei angen?