This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Eglwysi ac eglwysi sy’n cael eu plannu

Fel menter sydd am hyrwyddo plannu eglwysi, nid ein hawydd yw datblygu i fod yn rhwydwaith nac enwad newydd. Ein nod yn syml yw gweithio mewn partneriaeth gydag unrhyw rai sy’n rhannu ein cariad at Iesu, ein dyhead i weld Cymru yn troi yn ôl ato, a’n hymrwymiad i weld eglwysi newydd yn cael eu plannu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Rydym yn credu mewn partneriaeth ar sail cymryd rhan. Ystyr hyn i ni yw nad oes yna broses ffurfiol o aelodaeth, ein dymuniad yw gweld eglwysi yn chwarae eu rhan drwy weddïo dros, i ysbrydoli, arfogi, anfon a chefnogi’r rhai sy’n plannu a’u timoedd. Os wyt ti yn arweinydd eglwysig, un o’r ffyrdd gorau i weithio mewn partneriaeth â ni yw drwy ymuno a’r digwyddiadau rydym yn eu trefnu i gryfhau ac annog arweinwyr eglwysig eraill, a’r rhai sy’n plannu eglwysi ar draws Cymru.

Eglwysi sy’n cael eu plannu rydym yn gweithio â hwy
  • Eglwys Gateway, St Brides Minor
  • Craig Blaenau, Blaenau Ffestiniog
  • Angor, Grangetown
  • Eglwys Godfirst, Y Bari
  • Eglwys Grace Treganna
  • Eglwys Hope Sir Benfro
  • Eglwys Hope Rhondda – Plannu yn Treorci
  • Eglwys Hope Rhondda – Plannu yn Trebanog
Eglwysi rydym mewn partneriaeth â hwy
  • Eglwys Hope Rhondda
  • Ffynnon, Llandysul
  • Eglwys Grace Caerdydd
  • Eglwys Grace Porthcawl
  • Eglwys Bedyddwyr Ainon, Tongwynlais
Y weledigaeth

Os wyt yn plannu yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennyt i weld os medrwn
gynorthwyo neu gefnogi mewn unrhyw ffordd. Plîs – cysyllta â ni..